Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 15 Mehefin
2016
Amser y cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3609
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.16
Gofynnwyd cwestiynau 1 i 2 a 4 i 7. Tynnwyd cwestiwn 3 yn ôl. Atebwyd cwestiynau 1 a 7 gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 15.04
NDM6023 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1:
Yn sefydlu Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol dros dro i gyflawni swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol fel y'u nodir yn Rheol Sefydlog 21, ac ystyried unrhyw fater cyfansoddiadol, deddfwriaethol neu lywodraethol arall sydd o fewn cymhwysedd y Cynulliad neu Weinidogion Cymru, neu sy'n gysylltiedig â chymhwysedd y Cynulliad neu Weinidogion Cymru, gan gynnwys ansawdd deddfwriaeth.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 15.04
NDM6028 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
(i) Huw Irranca-Davies (Llafur Cymru), Dafydd Elis-Thomas (Plaid Cymru), David Melding (Ceidwadwyr Cymreig) a Michelle Brown (Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig) yn aelodau o'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol dros dro; a
(ii) David Melding (Ceidwadwyr Cymreig) yn Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol dros dro.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 15.06
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
NDM6020
Eluned Morgan (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni)
Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn credu y byddai Cymru'n gryfach, yn ddiogelach ac yn fwy llewyrchus pe byddai'n parhau'n rhan o'r Undeb Ewropeaidd.
Cefnogir gan:
David Melding (Canol De Cymru) R
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
44 |
0 |
9 |
53 |
Derbyniwyd y cynnig.
Dechreuodd yr eitem am 16.01
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6021 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi llwyddiannau enfawr
tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru wrth gymryd rhan ym
mhencampwriaeth Euro 2016 yn Ffrainc ar hyn o bryd.
2. Yn cydnabod y rôl y gallai rhan Cymru yn y bencampwriaeth
ei chwarae o ran hybu cyfranogiad mewn chwaraeon, gwella lefelau
iechyd y cyhoedd a chreu etifeddiaeth barhaus ar gyfer ein
hathletwyr elitaidd.
3. Yn mynegi pryder at ganfyddiadau Arolwg Iechyd diweddar Llywodraeth Cymru, a oedd yn pwysleisio maint yr heriau o ran iechyd y cyhoedd sy'n wynebu Cymru ac a ganfu bod 24 y cant o oedolion yn cael eu hystyried yn ordew a bod 59 y cant o oedolion yn cael eu hystyried i fod dros eu pwysau neu'n ordew.
4. Yn credu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru weithio gyda chyrff llywodraethu a phartneriaid allweddol i ddefnyddio digwyddiadau fel y ffaith bod Cymru wedi cyrraedd y rowndiau terfynol, ac wedi cymryd rhan yng nghystadleuaeth Euro 2016, i wella iechyd y cyhoedd ac ysgogi mwy o gyfranogid mewn gweithgarwch corfforol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
45 |
0 |
10 |
55 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Dechreuodd yr eitem am 16.56
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6022
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin
Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol
Cymru:
1. Yn nodi cyhoeddi Bil Cymru;
2. Yn gresynu bod datganoli plismona wedi'i hepgor;
3. Yn gresynu at fethu â sefydlu awdurdodaeth gyfreithiol benodol neu ar wahân; ac
4. Yn gresynu at y cyfle a gollwyd i ddatganoli gweinyddu cyfiawnder.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
39 |
0 |
16 |
55 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Dechreuodd yr eitem am 17.55
Dechreuodd yr eitem am 17.58
NDM6024 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru):
Cyflawni dyfodol ynni craffach i Gymru: Blaenoriaethau polisi ynni ar gyfer Llywodraeth newydd Cymru.
Daeth y cyfarfod i ben am 18.25
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 21 Mehefin 2016